Disgyblion
Meithrin a
Derbyn
Blwyddyn
1 a 2
Blwyddyn
3 a 4
Blwyddyn
5 a 6
Ysgol
Tremeirchion
‘Un teulu gyda’n gilydd’
Cysylltu efo Ni
Ysgol Tremeirchion
Tremeirchion
Llanelwy / St Asaph
LL17 0UN
01745 710328
ysgol.tremeirchion@sirddinbych.gov.uk
ysgol.tremeirchion@denbighshire.gov.uk
@YsgTremeirchion
Ysgol Tremeirchion © 2025 Website designed and maintained by H G Web Designs
Helo fy enw i yw Nourian. Rydw i eisiau bod yn brif disgybl oherwydd rydw i eisiau annog mwy o blant i siarad mwy o Gymraeg a
chadw’n heini. Mae Pawb yn hoffi cerdded felly beth am drefnu taith gerdded i ddod a’r cymuned at ei gilydd, mynd am dro o gwmpas
ein ardal prydferth, bod yn yr awyr agored a chael hwyl ‘UN TEULU GYDA’N GILYDD’.
Helo fy enw i yw Enola. Roedd cyn ddisgyblion wedi creu argraff bositif arnai fel Prif ddisgyblion llynedd. Rwyf eisiau helpu’r plant
ieuengaf gyda iaith ein hysgol. Dwi’n cofio stryglo gyda’r iaith pan wnes i ddechrau yma. Mi fuaswn yn annog canu caneuon, Cymro’r
wythnos ayyb. Rydw i eisiau gwneud mwy o waith casglu arian ar gyfer elusennau. Rwyf eisiau gwneud gwaith gyda llyfrgell yr ysgol fel
cael awduron i mewn i siarad a gweithio gyda’r plant.
Helo fy enw i yw Alys. Mae gen i lawer o syniadau er mwyn datblygu pethau yn yr ysgol fel prynu Argraffwr 3D er mwyn datblygu
sgiliau plant ac argraffu nifer o offer. Rwyf yn dda am wrando, rwyf eisiau datblygu sgiliau, hyder, mwynhad a pharch ein hiaith. Rwyf yn
aelod o’r Criw Cymraeg ac eisiau annog y plant bach i ddysgu Cymraeg. Credaf fydd chwarae a cael hwyl trwy ddysgu gemau a
chaneuon Cymraeg yn helpu plant bach. Mi fuaswn yn trefnu pob gwasanaeth, gwrando ar syniadau eraill am gwella’r ysgol, wedyn
trefnu cyfarfod Prif ddisgyblion gyda athrawes a chael paned a sgwrs a rhannu syniadau, gyda’n gilydd fyddan ni’n cydweithio i wella a
gall hyn dod a syniadau ni yn fyw.
Helo fy enw i yw Beth. Rydw i yn gyffrous iawn am y flwyddyn sydd o’m mlaen. Rydw i eisiau annog plant bach i siarad Cymraeg ac
annog nhw i orffen y sialens. Hoffwn fynd i’r eglwys i ganu mwy a chodi arian ar gyfer elusennau. Rydw i eisiau trio cael yr ysgol hon i
fod y gorau yn fy mro. Rydw i eisiau plannu mwy o blanhigion, blodau a llysiau a defnyddio mwy o’r byd natur fel ein offer celf. Cael mwy
o offer chwaraeon. Gallwn wella Cymreictod a chynnydd disgyblion, fel un teulu gyda’n gilydd, drwy weithgareddau hwyl a heriol.
Helo fy enw i yw Logan. Rwyf eisiau bod yn brif disgybl er mwyn creu parc yn yr ysgol; plannu mwy o bethau a chael anifail anwes yn yr
ysgol.
Helo fy enw i yw Tomos. Rydw i bod yn brif disgybl er mwyn cael mwy o seddi ar y buarth blaen a chael siglen ar y cae.